Session 2: Article

Mae Big Pit yn bwll glo ar ochr y dyffryn uwchben tref Blaenafon yn Ne Cymru

        Big Pit is a coal mine on the side of the valley above the town of Blaenafon in South Wales

Roedd y pwll yn gweithredu am gant o flynyddoedd, gan gyflogi miloedd o lowyr

         The mine was operating for a hundred years, employing thousands of miners

Daeth cloddio glo i ben ond mae`r pwll wedi ei ailagor fel amgueddfa a chanolfan i ymwelwyr

         Coal mining came to an end but the mine has reopened as a museum and visitor centre

Mae adeiladau`r lofa wedi eu cadw

         The buildings of the mine have been preserved

Gallwch ymweld â`r injan weindio a gweithdai, a baddonau a ffreutur y glowyr

         You can visit the winding engine and workshops, and the miners` baths and canteen

Mae ymwelwyr yn gwisgo hetiau caled a lampau, ac yn disgyn y siafft i`r gweithfeydd tanddaearol

         Visitors wear hard hats and lamps, and descend the shaft to the underground workings

Mae cyn-lowyr yn eich tywys trwy`r twneli, gan esbonio sut y cafodd y glo ei dorri a`i gludo i`r siafft

         Former miners guide you through the tunnels, explaining how the coal was cut and transported to the shaft

Roedd glowyr yn torri glo â llaw yn y dyddiau cynnar, ond yn fwy diweddar defnyddiodd y pwll beiriannau mawr i dorri`r glo

         Miners cut coal by hand in the early days, but more recently the mine used large machines to cut the coal