Session 2: Story

Mae`r teulu Morris yn byw mewn tŷ newydd ar ystâd ar gyrion y ddinas

        The Morris family live in a new house on an estate on the outskirts of the city

Maen nhw`n ddryslyd oherwydd bod pethau yn y tŷ wedi diflannu yn ddiweddar

         They are confused because things in the house have disappeared recently

Collwyd pethau bach yn gyntaf, fel darn pos jig-so

         First small things were lost, like a jigsaw puzzle piece

Yna diflannodd modrwy a oedd ar y bwrdd yn eu hystafell wely

         A ring then disappeared which was on the table in their bedroom

Roedden nhw`n drwgdybio eu mab bach Huw, a oedd newydd ddechrau yn yr ysgol

         They suspected their small son Huw, who had just started school

Fodd bynnag, diflannodd rhai o hoff frics adeiladu plastig Huw hefyd

         However, some of Huw`s favourite plastic building bricks also disappeared

Parhaodd y teulu i fod yn ddryslyd

         The family continued to be confused

Un noson sylwodd Mr Morris ar eu cath fach yn llusgo llwy de o`r gegin a`i chymryd o dan y ddreser

         One evening Mr Morris noticed their kitten dragging a teaspoon from the kitchen and taking it under the dresser

Sylweddolodd bod pethau wedi dechrau diflannu yn fuan ar ôl iddynt brynu`r gath fach newydd

         He realised that things had begun to disappear soon after they bought the new kitten

Edrychodd o dan y ddreser ac roedd popeth yno

         He looked under the dresser and everything was there

Mae`r teulu yn gwybod ble i chwilio nawr a oes unrhyw beth arall yn diflannu

         The family now know where to search if anything else disappears