Session 3: Article

Mae Bae Caerdydd rŵan yn llyn dŵr croyw mawr

        Cardiff Bay is now a large fresh water lake

Ffurfiwyd y llyn trwy adeiladu morglawdd ar draws aber yr afonydd Taf ac Ely

         The lake was formed by building a barrage across the mouth of the rivers Taff and Ely

Bae Caerdydd yw safle`r hen ddociau

         Cardiff Bay is the site of the old docks

Roedd dociau Caerdydd yn allforio glo o Gymoedd De Cymru i weddill y byd

         Cardiff docks exported coal from the South Wales Valleys to the rest of the world

Daeth morwyr o bedwar ban byd ac yn ymgartrefu yn agos at y dociau

         Sailors came from across the world and settled close to the docks

Mae`r ardal yn enwog am fod yn amlddiwylliannol

         The area is famous for being multicultural

Ar ôl yr Ail Ryfel Byd caeodd y rhan fwyaf o`r diwydiant ac aeth y dociau yn segur

         After the Second World War most of the industry closed and the docks became disused

Adeiladwyd Morglawdd Bae Caerdydd ym 1999

         The Cardiff Bay Barrage was built in 1999

Bae Caerdydd yw lleoliad adeilad Senedd Cymru a`r swyddfeydd ar gyfer aelodau`r senedd

         Cardiff Bay is the location of the Welsh Parliament building and offices for the members of the parliament

Roedd adeilad hanesyddol y Pier Head yn bencadlys y Cwmni Dociau

         The historic Pier Head building was the headquarters of the Dock Company

Mae Cei Môrforwyn yn darparu amrywiaeth o fwytai, bariau a chaffis

         Mermaid Quay provides a variety of restaurants, bars, and cafés

Mae gan Fae Caerdydd warchodfa natur gwlyptir newydd hefyd

         Cardif Bay also has a new wetland nature reserve