Session 4: Sentences

Fydd e`n teithio i Ffrainc?

        Will he travel to France?

Faint o fyfyrwyr fydd yn y dosbarth?

        How many students will be in the class?

Bydd angen i mi fynd at y meddyg yfory.

        I will need to go to the doctor tomorrow.

Bydd Dewi yn mynd i brifysgol yn yr hydref.

        Dewi will go to university in the autumn.

Bydd y trên o Abertawe yn cyrraedd yn fuan.

        The train from Swansea will arrive soon.

Fe ddechreuiff y band chwarae pan fydd y maer yn cyrraedd.

        The band will start playing when the mayor arrives.

A wnewch chi gerdded ar draws y cae neu ar hyd y ffordd?

        Will you walk across the field or along the road?

A fyddant yn cwympo`r hen goeden wrth y tŷ?

        Will they fell the old tree by the house?

Os byddwch chi’n ffonio yfory, byddaf yn rhoi’r wybodaeth i chi.

        If you phone tomorrow, I will give you the information.

Bydd y trydanwr yma cyn bo hir a bydd e`n atgyweirio`r peiriant.

        The electrician will be here soon and he will repair the machine.

Byddant yn colli eu swyddi pan fydd y ffatri`n cau y flwyddyn nesaf.

        They will lose their jobs when the factory closes next year.

Y tro nesaf y byddwch chi`n gweld Mr Jones, a wnewch chi ofyn iddo am y ffenestr wedi torri?

        The next time you see Mr Jones, will you ask him about the broken window?

A fydd penllanw pan gyrhaeddwn yr arfordir?

        Will it be high tide when we arrive at the coast?

Bydd y tocynnau`n ddrytach na`r llynedd.

        The tickets will be more expensive than last year.

Dydw i ddim yn hoffi`r rhain. Mae`r rheiny`n well.

        I don`t like these. Those are better.

Bydd gwartheg yn y cae felly bydd yn rhaid i chi gymryd gofal.

        There will be cattle in the field so you will have to take care.

Bydd y goeden dderw yno o hyd mewn hanner can mlynedd.

        The oak tree will still be there in fifty years.

Dywedodd ei fam y bydd e adref am saith o`r gloch.

        His mother said that he will be home at seven o`clock.

A fyddant yn prynu`r hen ffermdy yn Bordeaux?

        Will they buy the old farmhouse in Bordeaux?

Fe awn ni yno yn ystod y drydedd wythnos ym mis Awst.

        We will go there during the third week in August.